Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (233)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Wenidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1 - 11 ac 14 - 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer mis Hydref sy’n dangos mai dim ond 55.5% o ymatebion brys i alwadau categori A (bygythiad difrifol i fywyd) a gyrhaeddodd y safle o fewn wyth munud? EAQ(4)0524(HSS)
3 Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM5637 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.00
NDM5628 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5638 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth genedlaethol Cymru.
2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran denu ymwelwyr i Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
4 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Crynodeb o Bleidleisiau
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.47
NDM5635 Nick Ramsay (Mynwy)
Cŵn Tywys Cymru: rhyddid i symud i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.
I godi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cŵn Tywys Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg.
8 Dadl Fer - Gohiriwyd o 19 Tachwedd 2014
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM5629 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn yn y gweithlu ledled Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2014